Menu

Dathlu ein haelodau Cymreig yn gweithio ym maes patholeg

Dathlu ein haelodau Cymreig yn gweithio ym maes patholeg
22 August 2023
Yn gynharach y mis hwn, dathlodd ein Rhanbarth IBMS Cymru wyl ddiwylliannol flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Gogledd Cymru.

Yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r wyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop ac mae’n dathlu diwylliant ac iaith Cymru. Mae’r Eisteddfod yn denu 150,000 o ymwelwyr dros yr wythnos gyda llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan. 

Er bod Cymru efallai’n adnabyddus fel Gwlad y Gân, mae cyfraniad ymchwilwyr Cymreig i’r byd gwyddonol yr un mor rhyfeddol, ac yn dod yn rhan gynyddol o’r Eisteddfod. 

Eleni, cymerodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) y cyfrifoldeb I gynnal stondin ym mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod.

     

Trefnwyd y stondin ar y cyd gan Dr Victoria Bradley (aelod o Gyngor IBMS o Brifysgol Metropolitan Caerdydd) a Luke Hughes (Pennaeth Addysg a Datblygiad Patholeg, BIPBC), i gydnabod y gwaith a wneir gan wyddonwyr biofeddygol a gwyddonwyr gofal iechyd eraill – gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes patholeg. 

 

Ychwanega Dr Bradley:

“Roeddem yn ffodus i gael cefnogaeth gan aelodau IBMS ledled Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Rydyn ni’n bwriadu mynychu bob blwyddyn nawr wrth symud ymlaen, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, sydd wedi’i hanelu’n benodol at blant iau.”

Drwy’r stondin hon, bu cydweithwyr ar draws BIPBC, aelodau RCPath, ac aelodau Rhanbarth Cymru IBMS yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith a wneir gan labordai patholeg a rôl gwyddoniaeth fiofeddygol mewn gofal iechyd.  

 

 

Manteisiodd ymwelwyr ar y cyfle i ofyn cwestiynau ynglun, sut mae samplau’n cael eu prosesu mewn labordai, ac ehangder y dadansoddi y gall gwyddonwyr biofeddygol ei wneud. Roedd llawer wedi'u swyno'n i ddarganfod pa mor bwysig yw canlyniadau profion labordy i unrhyw broses ddiagnostig ac i'r ddarpariaeth o feddyginiaeth bersonol.

 

Roedd ein haelodau hefyd yn gallu trafod gyrfaoedd gyda myfyrwyr ysgol ar draws grwpiau oedran amrywiol. Gyda myfyrwyr lefel A tynnodd yr aelodau sylw at bwysigrwydd graddau gwyddoniaeth fiofeddygol Achrededig IBMS ac esbonio'r cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael mewn patholeg hefyd. Ar gyfer plant iau, roedd yr aelodau'n gallu defnyddio'r fersiwn Gymraeg newydd o'n comics Superlab i ennyn diddordeb plant mewn sgyrsiau yn ymwneud â gwyddoniaeth.

    

 

Meddai Luke Hughes:

“Rhoddodd cyfanswm o 11 o’n ein tîm gwyddonol yr wythnos i gyd. 

Roeddem yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau STEM gyda phlant yn ymweld â’n stondin i annog diddordeb mewn gwyddoniaeth feddygol, gyda breichledau seiliedig ar DNA personol yn hynod boblogaidd – roedd angen i ni ail-stocio ar gyflenwadau cyn hanner ffordd drwy’r wythnos.

 

Yn ogystal â darparu buddion i staff fel DPP, mae gweithgareddau fel yr Eisteddfod yn gyfle gwych i gryfhau perthnasoedd a hyder gyda’n cydweithwyr, cleifion a’r cyhoedd yn gyffredinol. 

Rydym ni, fel patholeg, yn rhan o’r system gofal iechyd sy’n aml wedi’i chuddio oddi wrth y cyhoedd. O’r herwydd hyn, mae cynyddu ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n ein hwynebu fel gwasanaeth yn bwysig iawn, ac rhaid i ni gymmeryd pob cyfla i rhanu am pa gyrfa sydd gennym i’w cynnig o fewn patholeg, i barhau i ddatblygu a diogelu ein gwasanaethau yn y dyfodol.”  

If you are running an event related to the biomedical sciences, a great way to keep us informed live is to post to our social media channels:  Facebook.com/BiomedicalScience or  Twitter.com/IBMScience
Back to news listing